Gwefan Siarter Goed – tudalen iaith Gymraeg

“Pan welaf i dirwedd sy’n frith o goed a gwrychoedd, mi welaf i dirwedd fydd yn well i bobl, byd natur a’r blaned. Mae coed yn helpu lleihau llifogydd, yn arafu gwyntoedd ac yn gwella ansawdd yr aer, wrth edrych yn hardd ac yn cynnig cartrefi i fywyd gwyllt gwerthfawr.”

Iolo Williams, Naturiaethwr a Chyflwynydd


Mae’r Siarter Coed i’r Werin yn gosod yr egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed sefyll gyda’i gilydd yn gadarn. Lansiwyd y Siarter Goed yng Nghastell Lincoln ar 6 Tachwedd 2017; pen-blwydd Siarter y Fforest 1217 yn 800 mlwydd oed. Mae’r Siarter Goed wedi gwreiddio mewn mwy na 60,000 o ‘straeon coed’ wedi eu casglu gan bobl o bob math o gefndiroedd ar draws y DU.
Arwyddwch Siarter Coed i’r Werin i sefyll dros goed

Etifeddiaeth

Mae lansiad y Siarter Goed yn ddechrau ar oes newydd i goedwigoedd, coed a phobl yn y DU. I ddathlu ei lansiad yn 2017, gosodwyd 11 o bolion pren cerfiedig mewn safleoedd ar draws y DU i atgoffa pobl yn barhaus o’r Siarter Goed a’i 10 Egwyddor.

Cafodd y polion eu creu o dderw a dyfwyd ym Mhrydain ar Ystâd y Goron, a’u cerfio gan yr artist Simon Clements yng Nghanolfan Goed Sylva yn Abingdon.

Mae Parc Bute, yng Nghaerdydd yn gartref i Bolyn Egwyddor celf ac etifeddiaeth y Siarter Coed, sy’n cynrychioli’r Egwyddor ‘Dathlu pŵer coed i ysbrydoli’. Cyfansoddwyd y gerdd ddwyieithog isod, sydd wedi’i cherfio ar y polyn gan y bardd Sophie McKeand.

Cofiwch eich gwreiddiau
we are the words in your lungs
dŵr ydych chi
your children are our future
ein cynhaliaeth
we cannot dream without you
plygu mewn rhisgl derwen a chariad

Diwrnod Siarter Goed

Dan yr Egwyddor ‘dathlu pŵer coed i ysbrydoli’, mae’r Siarter Goed yn galw am ddiwrnod cenedlaethol bobl blwyddyn lle fyddai’r wlad yn uno i ddathlu, amddiffyn ac ehangu swyddogaethau’r coed a’r coedwigoedd yn ein bywydau. Bob blwyddyn, i gyd-ddigwydd â Diwrnod Siarter Goed, bydd Coed Cadw yn galw pwyllgor o sefydliadau traws-sector i adolygu’r cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion a osodwyd yn Egwyddorion y Siarter Goed. Bydd hyn yn darparu ffocws ar gyfer trafod, ymgyrchu a gweithredu’r heriau allweddol sy’n bygwth coed yn ein bywydau a’n tirweddau. Bydd Diwrnod Siarter Goed bob amser yn digwydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed, dathliad blynyddol y Cyngor Coed o goed sy’n dynodi dechrau tymor plannu coed y Gaeaf. Darganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, a gwneud eich rhan i sefyll dros goed drwy drefnu digwyddiad a’i restru ar fap Wythnos Genedlaethol Coed. http://www.treecouncil.org.uk/Take-Part/Near-You

Osprey in flight
  1. Deall ac amddiffyn swyddogaeth coed yn cefnogi bywyd gwyllt
  2. Cryfhau cynefinoedd pwysig gyda phlannu newydd
  3. Creu rhwydweithiau trafnidiaeth ar gyfer bywyd gwyllt a phobl
  4. Cynnal cynefinoedd coetir gwerthfawr a bregus
  5. Ffermio’r tir ar gyfer bywyd gwyllt a phobl
  6. Caniatáu cylch bywyd
  7. Bod yn gymdogion parchus i’n bywyd gwyllt
  8. Caniatáu i natur gyflawni’r hyn mae’n ei gwneud orau
  1. Cynyddu gorchudd canopi ar draws y DU
  2. Plannu’r goeden iawn ar gyfer y lle iawn
  3. Tynnu llun o dirwedd
  4. Plannu gyda phwrpas
  5. Plannu ar gyfer prydferthwch
  6. Plannu mwy o wrychoedd ac ailgyflenwi’r rheiny sydd wedi eu difrodi
  7. Plannu mwy o berllannau
  8. Cynllunio ymlaen llaw
  9. Cynnwys pawb ym mhlannu coed
Newly-planted oak sapling
Storybook featuring pictures of trees
  1. Diwrnod cenedlaethol ar gyfer coed, coedwigoedd a phobl
  2. Diogelu ein diwylliant coetir
  3. Dathlu coed a choedwigoedd mewn celf a llenyddiaeth
  4. Cydnabod coed fel etifeddiaeth fyw
  5. Ystyried etifeddiaeth coed y dyfodol
  6. Parchu a chryfhau ein hunaniaeth leol
  7. Cyflwyno prydferthwch i’n tirweddau
  8. Dathlu a diogelu ein hetifeddiaeth berllan ffrwythlon
  9. Darparu gwreiddiau cyffredin i gymunedau amlddiwylliannol
  1. Hyrwyddo gyrfaoedd sy’n gweithio gyda choed a choedwigoedd
  2. Creu cyfleoedd ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy ar draws y dirwedd
  3. Rhoi pŵer i geidwaid ein coedwigoedd a’n coed
  4. Cyrchu cynnyrch coed a choedwigoedd yn gyfrifol
  5. Annog arloesi yn nefnydd coed
  6. Cefnogi busnesau coetir bach
  7. Hyrwyddo cynnyrch coed a dyfir yn y DU
  8. Cefnogi cynhyrchwyr ffrwyth y DU
  9. Annog a chefnogi rheoli coetir cynaliadwy
Tree rings and a sprig of new growth
Tree protected by a shield
  1. Atal unrhyw golled bellach o goetir hynafol gwerthfawr y DU
  2. Adnabod ac amddiffyn etifeddiaeth coed bwysig
  3. Rhoi pŵer i geidwaid ein hetifeddiaeth coed i adfer tirweddau pwysig
  4. Adnabod a mapio coed a choedwigoedd pwysig
  5. Egluro’r cyfrifoldebau o ofalu am goed a choedwigoedd pwysig
  6. Amddiffyn perllannau hanesyddol yn gyfreithiol
  7. Diogelu a rheoli gwrychoedd ar gyfer y dyfodol
  8. Gwarchod rhinweddau unigryw’r coetir hynafol
  9. Diogelu ein hetifeddiaeth coed y dyfodol
  1. Cynyddu’r nifer o goed mewn datblygiadau newydd
  2. Cynnal rhwydweithiau lleol cryf o arbenigedd coed
  3. Cydnabod gwerth llawn coed a choedwigoedd
  4. Cynllunio ar gyfer y dyfodol wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â choed a choedwigoedd
  5. Ymdrin â rheoli, plannu a diogelu coed yn strategol
  6. Rhannu dysgu ac ymarfer da ynglŷn â’r buddion o goed
  7. Blaenoriaethu coed cynaliadwy fel deunydd adeiladu
  8. Gwneud yn iawn am unrhyw golled o goed a choetir
House surrounded by trees
Heart-shaped leaf
  1. Datblygu cynllun gweithredu i fanteisio ar fuddion iechyd o goed
  2. Creu cyfleoedd iechyd drwy bartneriaethau traws-sector
  3. Creu amgylcheddau iachach gyda choed
  4. Creu lleoedd sy’n iachau
  5. Hyrwyddo’r buddion o amgylchoedd gwyrdd
  6. Cyflwyno plant i goed yn ddyddiol
  1. Helpu plant i gysylltu â choed yn yr
  2. Cefnogi perchnogion tir i agor eu coedwigoedd i bobl
  3. Cynnwys cymunedau wrth blannu a rheoli coed a choedwigoedd
  4. Adnabod a goresgyn rhwystrau i gael mynediad at goedwigoedd a choed
  5. Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd lleol i gael mynediad at goedwigoedd a choed
  6. Hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yng nghoedwigaeth a thyfu coed
  7. Cefnogi creu grwpiau coetir cymunedol
  8. Meithrin cariad at goed a choedwigoedd yn y gymdeithas
Muddy boot print
Leaf marked by tree disease
  1. Dwyn ynghyd yr holl goedwigoedd dan reolaeth
  2. Darparu canllawiau ymarfer da a chlir ar blannu a rheoli
  3. Sicrhau amrywiaeth o goed ar draws y dirwedd
  4. Caniatáu i goed anadlu
  5. Rheoli perllannau ar gyfer dyfodol
  6. Gweithredu yn gyflym ar blâu a rhywogaethau ymledol
  7. Buddsoddi mewn ymchwil i ddarganfod datrysiadau ar gyfer afiechydon coed
  8. Sicrhau system rhybuddio’n gynnar ar gyfer afiechydon a phlâu coed
  9. Cynnal cadwyn gyflenwi sy’n rhydd o afiechydon ar gyfer coed a
  1. Hyrwyddo effaith gadarnhaol coed yn y dirwedd
  2. Ymdrin â rheoli tir gydag agwedd gysylltiedig
  3. Gwerthfawrogi coed am yr holl fuddion maent yn eu creu
  4. Gwneud y gorau o swyddogaeth coed yn atal llifogydd
  5. Gwella dyfrffyrdd gyda choed
  6. Hyrwyddo swyddogaeth coed ar ffermydd
  7. Adnabod a chefnogi ceidwaid tirweddau gwerthfawr
Trees rooted in layers of soil